Cymraeg

Mae Hanna yn ddawnswraig gyfoes greadigol yn enedigol o Sir Ddinbych, Gogledd Cymru, ond ar fin gorffen ei gradd anrhydedd mewn Dawns ym Mhrif Ysgol Gaer.

Cychwynodd ddiddordeb Hanna mewn dawns pan yn 6 oed yn mynychu Ysgol Ddawns Gogledd Cymru (North Wales School of Dancing) ac cymryd gwersi mewn Ballet, Tap a Modern. Cafodd Hanna y siawns o ymuno y grwp cystadlu lle buom yn lwcus o gael perfformio yn 'Blackpool Opera House', 'Liverpool Empire Theatre' a 'Her Majesty's Theatre, West End London'.

Pan yn yr ysgol gynradd a uwchradd cyfranodd a meithrin ei dawn drwy gystadlu mewn grwp dawns greadigol yn yr Eisteddfod yr Urdd gan gynnwys cystadlu gyda llwyddiant mewn ymgomau, corau ac yn unigol.

Yn 2010 fe wnaeth Hanna ddechrau choreograffu dawns i ysgolion ac unigolion gal cymryd rhan yn yr Eisteddfod yr Urdd. Yn dilyn hyn cafodd Hanna ei gofyn i feirniadu y dawnsio yn 2014 yng Nghylch Edeirnion ac yn 2015 yn yr Eiseddfod Sir, Sir Ddinbych. Mae gyda Hanna gysylltiad gyda'r Urdd drwy ddysgu mewn Clwbiau Gwyliau yn Sir Ddinbych.

Mae Hanna wedi bod yn frwdfrydig o fewn y gymdeithas a cymunedau yn choreograffu i 'Ruthin Panto Society' ac hefyd perfformio gyda NEWDance yn Canolfan Grefftau Rhuthun.

Yn 2013 cystadlodd Hanna yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych yn y Dawns Unigol ac cafodd yr ail wobr.

Mae Hanna wedi cael y siawns o weithio gyda choreographwyr adnabyddus drwy gyd weithio gyda Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn Gaerdydd. (Am wybodaeth manwl ynglyn a Hanna ewch i'r wefan Saesneg).

Mae Hanna yn awyddus i feithrin sgiliau plant yr ardal gyda cyfleuon o gydweithio gyda ysgolion i gynnig gweithdai Dawns i Blant a Phobl Ifanc ac i fagu hyder a elwa gyda phwysigrwydd Iechyd a Lles yn y gymuned.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch a Hanna drwy'r ffurflen gyswllt ar y wefan.

Copyright © All rights reserved 2018 Hanna Medi Roberts         -       Privacy Policy